Dyma 4 blaenoriaeth yr Ysgol am y flwyddyn academaidd 2022-2023
BLAENORIAETH 1: LLES
Datblygu darpariaeth lles sy’n esblygu’n barhaus er mwyn cwrdd ag anghenion a codi safonau y disgyblion sydd yn ein gofal.
BLAENORIAETH 2: LLYTHRENNEDD
Datblygu hyder a gallu pob disgybl i gymhwyso eu sgiliau llafaredd ar draws y Cwricwlwm yn y Gymraeg. Sicrhau bod y cyfleodd ddarparwyd i ddarllen ar goedd ac i drin a thrafod yr hyn sydd ymhlyg mewn testun yn codi safonau disgyblion mewn agweddau o ddarllen a llafaredd ar y cyd.
Blaenoriaeth 3: Cwricwlwm Cymru
Cyd-weithio Clwstwr ar Brosiect Dalgylchol Maes STEM a`r Celfyddyau Mynegiannol trwy gyd-gynllunio, rhannu profiadau ac ymweliadau a mynychu arddangosfa yn ddiweddglo i’r Prosicet
Parhau i roi ystyriaeth i'r 4 Diben a Dyfodol Llwyddiannus fel rhan annatod o ddatblygu gweledigaeth o'r hyn mae cwricwlwm yn olygu i'r lleoliad.
Sicrhau amser i’r staff ddatblygu ymhellach eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ethos y cwricwlwm a'i strwythur cyffredinol.
Annog y staff i gydweithio'n fewnol ac yn ddalgylchol ar sut y gall cysylltiadau trawsgwricwlaidd hybu'r dysgu a'r addysgu trwy rannu syniadau wrth gyd-gynllunio
Blaenoriaeth 4: Cymhwysedd Digidol
Sicrhau dilyniant o sgiliau y cymhwysedd digidol drwy gydol yr ysgol.