Yn Ysgol Maesincla mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi fel unigolyn ac ymdrinnir â phob disgybl yn gyfartal ac yn deg.
Credwn fod pob plentyn yn derbyn cwricwlwm eang gyda phrofiadau cytbwys, diddorol a gwahaniaethol gan sicrhau bod hunan- barch a hyder yn cael eu cyfoethogi a bod agwedd gadarnhaol yn cael ei datblygu.
Mae Ysgol Maseincla wedi ymrwymo i gynhwysiad llwyddiannus disgyblion drwy ddefnyddio egwyddorion Ysgol Sy'n Annog a Gwerthoedd yr Eglwys. Ein nod yw darparu amgylchedd lle mae pob disgybl yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu ffynnu. Byddwn yn ymateb i unigolion mewn ffyrdd sy'n cymryd eu profiadau bywyd amrywiol a'u hanghenion penodon i ystyriaeth.
Mae llais a lles pob unigolyn yn holl bwysig yma ac yn rhan flaenllaw o ethos yr ysgol. Datblygwn y sgiliau sydd eu hangen ar bob dysgwyr i allu gofalu amdanynt eu hunain, i gadw’n saff, i wynebu a goresgyn heriau bywyd, ac i fwynhau dysgu.
Bydd yr ysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu addysg sy'n galluogi pob disgybl i wneud cynnydd fel eu bod yn cyflawni hyd eithaf eu gallu, yn dod yn unigolion hapus, balch, iach, hyderus ac annibynnol fydd yn pontio'n llon a llwyddiannus i fyd oedolion.